Ynglŷn â’r Compact
Mae pob un ohonon ni sy’n gweithio dros yr amgylchfyd yng Nghymru yn cydnabod ein cwlwm cyffredin. Ein hymrwymiad i’r amgylchfyd sy’n gosod sail i’n gweledigaeth, gwerthoedd a gweithgarwch yr holl ffordd ar draws y sector gwirfoddol a statudol. At ei gilydd mae pawb yn y Compact yn gweithio tuag at un llais cryf dros yr amgylchfyd.
Mae’r Compact yn ymwneud â’r ffordd mae mudiadau gwirfoddol a statudol yn gallu gwella’r ffordd y maint yn gweithio gyda’i gilydd.
Ein gweledigaeth ar gyfer y Compact
Mae ein gweledigaeth ar gyfer y compact yn un sy’n:
- Ychwanegu gwerth at yr hyn yr ydym yn gwneud
- Datblygu a hyrwyddo cysylltiadau agored
- Gwneud rhannu adnoddau’n rhywbeth cyffredin
- Creu cyfleon newydd
- Dylanwadu ac ysgogi eraill
- Gwneud gwahaniaeth real
Addasiad diwethaf
2010-07-26 15:05